DIGWYDDIAD
Gŵyl Ffilm WOW Film Festival: RAVE ON FOR THE AVON (12A)
25 Mawrth 2025
11:30
Yr Egin
Mae eleni’n nodi’r 24ain rhifyn o Ŵyl WOW, sy’n dathlu goreuon sinema Cymru a’r byd.
Mae’r Ŵyl yn arddangos amrywiaeth gyfoethog o ffilmiau sy'n amlygu talent leol a straeon byd-eang.
__________________
Cyfarwyddwr: Charlotte Sawyer
Iaith y Ffilm: Saesneg
A oes gan bobl hawl i natur? Ar ochr arall y ffin yn Lloegr, mae cymuned nofio gwyllt ym Mryste yn brwydro yn erbyn y llygredd carthion amrwd sy’n dinistrio Afon Avon. Gan gynnwys cerddoriaeth galonogol, ymgyrchu, a straeon am y rheiny sy’n gwrthod gadael i’w hafon farw, mae ‘Rave on For The Avon’ yn wahoddiad i uno, dathlu, a rhannu ein brwydr gyffredin dros ddyfrffyrdd glân a ffyniannus.
Ymunwch â ni ar gyfer ein dangosiadau arbennig ac yna sesiwn holi ac ateb fyw gyda’r cyfarwyddwr Charlotte Sawyer wrth i ni gysylltu ar draws ffiniau ac ysbrydoli gweithgarwch gyda’n gilydd.
- - - - - - -
"Sometimes an indie film like this comes along that just makes you want to cry, laugh, scream and jump headfirst into the open water like a mermaid" - Mel Rodrigues, CEO of Creative Access