DIGWYDDIAD

Gweithdai Sinema Eco Cinema Workshops

25 Mawrth 2025

09:45
Yr Egin
AM DDIM

Mae eleni’n nodi’r 24ain rhifyn o WOW, sy’n dathlu goreuon sinema Cymru a’r byd.

Mae Yr Egin yn falch iawn o fod yn dangos rhai ffilmiau anhygoel fel rhan o’r ŵyl, a dyma fydd y tro cyntaf i ŵyl WOW ddangos yng Nghaerfyrddin. 

Ymunwch â ni wrth i ni ddathlu 24 mlynedd anhygoel o WOW a gallu sinema i gysylltu ac ysbrydoli. 
__________________

Ar ail ddiwrnod yr ŵyl yn Yr Egin (25.03.2025), byddwn yn cynnal gweithdai yn ogystal â dangos rhai ffilmiau anhygoel, i nodi Diwrnod Sinema Eco. 

Cofrestrwch yma am le yn ein gweithdai / trafodaethau, a dilynwch y linciau isod i archebu tocyn i wylio'r ffilmiau. 
__________________
Dyma syniad o sut y bydd 'Diwrnod Sinema Eco' yn rhedeg: 

9:45yb Cychwyn y diwrnod gyda chyflwyniad gan Gruffydd Wyn Roberts (Cydlynydd Digwyddiadau a Phrosiectau) yn Yr Egin. 

10:00yb Ffilm: The Waste Common (1 awr) - Bydd angen i chi brynu tocyn ar gyfer gwylio y ffilm hon. TOCYN YMA. 

11:00yb Trafodaeth: Cyfle i drafod beth sy'n poeni pobl am yr afon yma yn Sir Gaerfyrddin. 

11:30yb Ffilm: Rave on The Avon (1 awr, 26 munud) - Bydd angen prynu tocyn ar gyfer gwylio y ffilm yma. TOCYN YMA

13:00yp Sesiwn Holi ac Ateb gyda Charlotte Sawyer (cyfarwyddwr Rave on the Avon

13:30 - 14:30yp: Cinio a thrafodaeth. 
*Dewch â chinio gyda chi, neu mae gennym gaffi ar y safle*

14:30 – 16:00yp Gweithdy 'Hiraethu am Afon' dan ofal Rebecca Kelly. 

16:30yp Ffilm: The Battle of Laikipia (1 awr 34munud)  -Bydd angen i chi brynu tocyn ar gyfer y ffilm hon. TOCYN YMA

Archebu

Tanysgrifiwch i'n Cylchlythyr

Cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyrau i dderbyn y newyddion a'r wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau sydd ar ddod. 

Rydych chi wedi tanysgrifio yn llwyddiannus!