DIGWYDDIAD
Gwersyll Ffilm Yr Haf Broadside Summer Filmmaking Camp
11 Awst 2025
10:00
Yr Egin
Yn barod i adrodd dy stori – dy ffordd di?
Ymunwch â ni yr haf hwn am bythefnos o ffilmio ymarferol lle byddwch yn
ysgrifennu, ffilmio ac yn golygu eich ffilm fer eich hun – yng nghalon
De-Orllewin Cymru.
P'un a ydych chi'n codi camera am y tro cyntaf neu eisoes yn creu ffilmiau ar
eich ffôn, dyma'ch cyfle i ddysgu'r grefft, darganfod eich llais, a chreu
rhywbeth go iawn.
Yn cael ei gynnal rhwng yr 11eg – 15fed a’r 18fed – 22ain o Awst, ac yn addas ar gyfer pobl ifanc rhwng 14 – 21, mae hwn yn gwrs dwys dros gyfnod o bythefnos wedi’i gynllunio i fod yn hygyrch i’r rhai sydd yn gwbl newydd i ffilmio, yn ogystal â’r rhai sydd am fireinio eu crefft neu fynd â hi gam ymhellach. Mae’r tiwtoriaid ar y cwrs yn weithwyr proffesiynol sy’n gweithio’n weithredol yn y diwydiant Ffilm a Theledu, gyda phrofiad eang o wneud a dysgu ffilm dros y degawd diwethaf.
Y ffordd orau o ddysgu sut i wneud ffilmiau, yw trwy eu gwneud. Y ffordd gyflymaf o ddysgu, yw trwy weld prosiect yn dod yn fyw o’r syniad cyntaf i’r cynnyrch gorffenedig. Bydd y cyfranogwyr yn cydweithio i greu’r stori, cynllunio’r cynhyrchiad, ffilmio’r ffilm ac yna ei golygu yn ei chyfanrwydd – i’w dangos i gynulleidfa ar sgrin sinema Yr Egin ar noson Awst 22ain. “Rwyt ti’n dysgu’r mwyaf wrth wylio dy ffilm o flaen cynulleidfa.”
Bydd y gwersyll ffilmio haf yn cynnwys sgiliau fel adrodd straeon, ysgrifennu, gwaith tîm, arweinyddiaeth, trefnu, rheoli amser, sgiliau technegol a golygu. Bydd y cwrs dwys yn rhoi’r hyder i gyfranogwyr barhau i greu ar ôl y cwrs, ehangu eu portffolio ar gyfer ceisiadau coleg a phrifysgol, ac yn gam cyntaf tuag at yrfa bosib yn y maes.
*Sicrhewch eich bod yn llenwi'r ffurflen Google sy'n rhan o'r ebost cadarnhau.*