DIGWYDDIAD
Sinema Teulu - Y Dywysoges a'r Bwgan
28 Hydref 2025
11:00
Yr Egin
Bydd tîm Gŵyl Animeiddio Caerdydd (CAF) yn teithio ledled Cymru gyda’r glasur ffantasi gwlt o’r 90au, Y Dywysoges a’r Bwgan!
Wrth chwarae yn y coed, mae bwganod yn ymosod ar y Dywysoges Rhiannedd ond mae rhyfelwr o’r enw Rhydian yn ei hachub. Pan fydd y bwganod yn ymosod ar y deyrnas ac yn cipio Rhydian, mae’n rhaid i Rhiannedd ddefnyddio hud a lledrith i’w hachub. A fydd hi'n llwyddo?
Dyma ddangosiad prin oY Dywysoges a’r Bwgan ar y sgrin fawr – a hynny yn Gymraeg. Mae'r ffilm yn glasur o'r '90au, wedi ei rhyddhau yn 1991 yn gydweithrediad rhwng Cymru a Hwngari. Dyma'r tro cyntaf iddi gael ei dangos mewn sinemâu ledled Cymru - felly dyma trît hanner tymor go iawn i'r teulu.
Yn dilyn y dangosiad bydd cyfle i edrych ar celf wreiddiol y animeiddio a phaentiadau oleu o'r ffilm gan rhoi tro ar bethau eich hunain.
Cyfarwyddwr - József Gémes
Amser Rhedeg - 75 munud
Addasrwydd Oedran - U (BBFC)