DIGWYDDIAD
POWER STATION - Sinema Chi
12 Chwefror 2026
19:00
Yr Egin
Mae POWER STATION yn dilyn ymgais cymuned i drawsnewid eu stryd yn Llundain i fod yn hwb sy'n cael ei phweru gan yr haul, gan ddod ag ynni glân i ysgolion a chartrefi lleol.
Gan sianelu comedi Withnail and I, mae'r ffilm yn olrhain treialon a thrafferthion ariannol ac emosiynol gwneud newid gyda'n gilydd. O gysgu ar y to i dyfu miloedd o flodau haul ac ymdrechion i gael cân rhif un yn y siartiau Nadolig! Mae ysbryd cymunedol, gweledigaeth a mymryn o ecsentrigrwydd a gwydnwch wrth wraidd y ffilm ddogfen hon gyda'r canlyniad yn hud bob dydd.
Wedi'i gyfarwyddo gan Dan Edelstyn a Hilary Powell, dau artist actifydd a gafodd eu hysbrydoli gan fentrau cyd-fuddiannol y cyfnod clo. Yn ddoniol ac yn gynnes, mae ffilm Powell ac Edelstyn yn bortread bywiog o'u cymdogaeth leol, ac yn dystiolaeth i bŵer celf wrth greu newid.
Bydd sesiwn holi ac ateb i ddilyn y dangosiad gyda’r cyfarwyddwyr a chynrychiolwyr o Ynni Sir Gâr a Localmotion.
Amser Rhedeg : 96 munud
Cyfarwyddwyr : Dan Edelstyn a Hilary Powell
