Perfformwyr rhyngwladol yn cyrraedd Canolfan S4C Yr Egin i ddatblygu drama newydd - ‘Aurora Borealis’

Llun: Heti Hywel

Mae hi wedi bod yn ddechrau cyffrous i'r flwyddyn yng Nghanolfan S4C Yr Egin, gan fod perfformwyr rhyngwladol wedi cyrraedd yma i weithio ar brosiect ymchwil a datblygu sef ‘Aurora Borealis’. 

Mae’r perfformwyr sydd yn gweithio ar y prosiect yn Yr Egin wedi teithio o bedwar ban byd i fod yn rhan o’r gwaith – Ashley Dowds o Dde Affrica, Emilie Hetland - actores Norwyaidd sydd bellach yn byw yn Iwerddon, Siggi Ingvarsson o Wlad yr Iâ a Siwan Morris o Gymru. Hefyd, mae Siri Wigdel, sy’n wreiddiol o Norwy ond bellach wedi ymgartrefu yng Nghymru, yn gyfrifol am goreograffi’r darn. 

Drama verbatim yw ‘Aurora Borealis’, wedi ei seilio ar dystiolaethau penodol a gasglwyd gan gyfarwyddwr y ddrama, Ian Rowlands, yng Ngwlad yr Iâ ynghyd â sawl gwlad arall. Y nôd erbyn diwedd y cyfnod ymchwil a datblygu yw sefydlu’r testun ynghyd â’r arddull perfformio a’r iaith gorfforol, gyda’r bwriad o greu llwyfaniad llawn ac uchelgeisiol fydd yn teithio theatrau Cymru maes o law. 

Dywedodd Ian Rowlands am y prosiect a’r broses o ddatblygu’r gwaith, 

“Dros y blynyddoedd, dwi wedi cwrdd â nifer o bobl, o ar draws y byd, sydd wedi bod yn ddigon caredig i rannu eu straeon gyda mi, pob un ohonynt wedi profi rhyw chwyldro personol. Ma’ nhw wedi ymddiried ynddo fi gyda’u hanes ac felly, dwi wedi ceisio plethu’r straeon a gwrthgyferbynnu'r profiadau fel sail i'r ddrama yma. Wnes i ddechrau ysgrifennu hi yng Ngwlad yr Iâ tua dwy flynedd cyn cyfnod Covid-19. Er mod i wedi cynnal sawl sesiwn ar-lein gyda’r actorion, dyma’r cyfle cyntaf mae’r rhan fwyaf ohonom ni wedi cwrdd wyneb yn wyneb. Rhaid i mi gyfaddef, mae rhan fwyaf y gwaith hyd hyn wedi bod yn broses o drafod gyda’n gilydd. Mae’n bwysig, achos dwi’n credu’n gryf trwy ddeialog, trwy mynegi ein hunain yn greadigol, gallwn ni hawlio ein lle ni fel Cymry ar lwyfan y byd.” 

Mae’r cyfnod ymarfer yma wedi bod yn brofiad a hanner i'r actorion hefyd, dywed Emilie Hetland o Norwy, 

“Dyma’r tro cyntaf i mi weithio yng Nghymru ac mae wedi bod yn wych cwrdd â’m cyd-actorion yn y cnawd. Nawr ein bod ni'n gweithio wyneb yn wyneb, mae'r ddrama wedi dod yn fyw i mi. Ry’n ni’n dechrau deall barddoniaeth yr hyn y mae Ian wedi'i ysgrifennu. Mae gweithio ar brosiect ymchwil a datblygu yn wych gan ei fod yn rhoi’r cyfle i chi chwarae gyda’r testun a’i archwilio, i ddarganfod drwy brosesau gwahanol beth allai’r ddrama hon fod. Mae cymaint o syniadau’n cael eu cynhyrchu yn yr ystafell ymarfer – mae’n wych bod yn rhan o broses sy’n llawn dychymyg.” 

Mae croesawu ymarferwyr rhyngwladol i Gaerfyrddin yn gyfle nid yn unig i godi proffil y dre a Chymru yn allanol ond hefyd yn fodd i fyfyrwyr a chymuned greadigol Yr Egin cael eu hysbrydoli gan drafodaeth a phrofiadau creadigol. Mi fydd myfyrwyr BA Ysgrifennu Creadigol a myfyrwyr BA Drama Gymhwysol: Addysg, Lles a Chymuned Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn mynychu ymarferion ar gyfer arsylwi'r gwaith, ynghyd a chriw ‘Slic’, clwb pobl ifanc sy’n cwrdd yn Yr Egin, i ennill profiad mewn meysydd creadigol amrywiol. 

Dywedodd Carys Ifan, Cyfarwyddwr Canolfan S4C Yr Egin, 

“Mae’r Egin yma i ganiatau i egin syniadau dyfu ac un ffordd o wireddu hynny yw trwy gynnal prosiectau ymchwil a datblygu a chynnig gofod ac amodau ffafriol. Rwyf wrth fy modd ein bod yn medru cydweithio gyda Ian Rowlands, dramodydd a chyfarwyddwr mor brofiadol sy’n byw yma yng Nghaerfyrddin er mwyn datblygu “Aurora Borealis” a chynnal deialog gwerthfawr gyda partneriaid rhyngwladol. Diolch yn fawr i Gyngor Celfyddydau Cymru am gefnogi’r prosiect.” 

Bydd y gwaith ymchwil a datblygu yn parhau yn Yr Egin tan yr 20fed o’r mis, gyda dangosiad o’r gwaith ar waith cyn ystyried camau nesa’ y prosiect. Os hoffech wylio ffrwd byw o’r dangosiad, a fydd yn digwydd ar y 19eg o Ionawr, cysylltwch gyda ni ar helo@yregin.cymru. 

Gallwch wylio fideo sy'n hyrwyddo'r prosiect a'i gynnwys yma.

 Ariannir y prosiect gan Gyngor Celfyddydau Cymru. 

Gwybodaeth Bellach:  
 
Catrin Reynolds Chapple, Swyddog Cyfathrebu a Chynnwys Digidol 
catrin@yregin.cymru  
07805 301 948

Tanysgrifiwch i'n Cylchlythyr

Cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyrau i dderbyn y newyddion a'r wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau sydd ar ddod. 

Rydych chi wedi tanysgrifio yn llwyddiannus!