Ein Stori
Yn ganolfan greadigol a digidol
... ar gampws Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yng Nghaerfyrddin, mae Yr Egin yma i wasanaethu Cymru, i danio dychymyg creadigol ac i feithrin talentau’r dyfodol.
Mae Canolfan S4C Yr Egin wedi ei lleoli yn nhref hynaf Cymru ac o fewn taith 90 munud i oddeutu 65% o holl siaradwyr y Gymraeg yng Nghymru. Ym mis Hydref 2018, agorwyd Yr Egin yn swyddogol gan y Prif Weinidog, Carwyn Jones AS a chafwyd dathliad trawiadol ar hyd strydoedd Caerfyrddin er mwyn nodi hynny. Canolfan greadigol arloesol yw’r Egin, un y gall Cymru gyfan ymhyfrydu ynddi.
Un o nodau’r Egin oedd gweithredu fel catalydd ar gyfer hybu a chryfhau adfywiad ieithyddol yn Sir Gâr. Mae cydweithio agos rhwng Yr Egin, Yr Atom – Canolfan Gymraeg Caerfyrddin – a Rhagoriaith – Canolfan Gwasanaethau Cymraeg Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant – yn ogystal â phartneriaid eraill megis yr Urdd a’r Mentrau Iaith er mwyn cyflawni hyn.
Mae Canolfan S4C Yr Egin yn ddatblygiad i’w drysori gyda’r nod o wasanaethu Cymru, tanio ei dychymyg creadigol a meithrin talentau’r dyfodol.
Ein pobl.







Y siwrne.
Ym mis Mawrth 2014, yn dilyn proses gystadleuol, cadarnhaodd Awdurdod S4C y byddai pencadlys y Sianel yn cael ei adleoli i gampws Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yng Nghaerfyrddin, yn rhan o ganolfan newydd fyddai’n gartref i glwstwr o gwmnïau a sefydliadau o’r diwydiannau creadigol.
Yr adeilad.
Niall Maxwell o’r Rural Office for Architecture a leolir yn Sir Gar a BDP oedd penseiri’r adeilad ac mae’r cydweithio llwyddiannus wedi arwain at greu adeilad cwbwl drawiadol sydd yn destun balchder yn ogystal ag yn weithle pleserus sy’n annog cydweithio, cyfathrebu a rhyngweithio rhwng holl ddefnyddwyr yr adeilad.
Mae’r cynllun wedi’i seilio ar y berthynas rhwng y Brifysgol, tenantiaid y Ganolfan a’r gymuned ehangach ac yn cael ei adlewyrchu yn nyluniad yr adeilad; ffurf drionglog wedi ei wreiddio yn nhirwedd Sir Gâr.
Ein prif amcanion.
Sefydlu canolfan greadigol o ansawdd a statws rhyngwladol, gyda phencadlys S4C yn galon iddi.
Creu buddiannau ieithyddol, diwylliannol, economaidd a chymdeithasol yng Nghaerfyrddin a’r De Orllewin.
Sbarduno buddsoddiad a thwf economaidd pellach yn Sir Gaerfyrddin a thu hwnt.
Codi statws y Gymraeg a’i diwylliant yng Nghaerfyrddin a’r ardal gyfagos mewn modd cyhoeddus, cyfoes a chyffrous.
Creu cymuned ddiwylliannol gyffrous er mwyn ysbrydoli ac egnïo mudiadau cymdeithasol a chymunedau amrywiol ar draws y rhanbarth.