Penodi actor a digrifwr adnabyddus fel cydlynydd ‘Talent Mewn Tafarn’ 

Mae Canolfan S4C Yr Egin yn falch i gyhoeddi bod Iwan John Williams wedi ei benodi yn gydlynydd ar brosiect ‘Talent Mewn Tafarn’. 

Uchelgais y prosiect ‘Talent Mewn Tafarn’ yw meithrin talent greadigol yn y Gymraeg, a chreu rhwydwaith o berfformwyr, ysgrifenwyr a hyrwyddwyr cymunedol newydd mewn ardaloedd gwledig, a hynny ar y cyd gyda’r Eisteddfod Genedlaethol, pum tafarn cymunedol ac artistiaid llawrydd. 

Dywedodd Carys Ifan, Cyfarwyddwr Canolfan S4C Yr Egin am y penodiad, “Mae'r prosiect yma mor lwcus i gael rhywun o brofiad ac ymroddiad Iwan yn gydlynydd arno. Rwy'n hollol ffyddiog y bydd yn cydweithio'n llwyddiannus gyda'r talent a'r tafarndai a bydd yn datblygu gwaddol cyffrous i'r gorllewin - gyda lot o chwerthin!” 

Mae Iwan yn adnabyddus yng Nghymru a thu hwnt am bortreadu cymeriadau doniol ar lwyfan ac ar sgrîn. O deledu plant (Twm Tisian, Jac Russell, Hotel Eddie) i raglenni comedi a drama (Cara Fi, Tair Chwaer, Hyd y Pwrs Mawr), mae gallu naturiol Iwan i wneud pethau’n ddoniol ac i ddatblygu cymeriadau cofiadwy yn amlwg. Dywedodd Iwan am gael ei benodi i'r rôl, 

"Mi oedd cal fy mhenodi fel cydlynydd Talent Mewn Tafarn yn deimlad hollol wahanol i gael swydd fel actor. Mi o'n i bron iawn yn emosiynol...(Wel mi oeddwn i, yy... na... wedd dwst yn fy llygaid!). Nid yw swydd actor bob tro yn cael ei gymryd o ddifrif ac er fod hwn yn sialens newydd, dwi’n edrych ymlaen i ga’l yr un fath o hwyl yn dod a mwy o gomedi i'r tafarndai cymunedol yma.” 

Bydd ‘Talent Mewn Tafarn’ yn cydweithio â mentoriaid ag artistiaid llawrydd er mwyn meithrin talentau a sgiliau creadigol newydd yn y Gymraeg, gyda chomedi fel sail. Gall comedi yn yr achos yma fod ar ffurf stand-yp, sgetsh, caneuon... mae’r posibiliadau yn ddiddiwedd. Y gobaith yw sefydlu rhwydwaith o berfformwyr a hyrwyddwyr cymunedol bydd yn cyfrannu at adfywio ac adfer cymunedau yng ngorllewin Cymru ôl-covid ac yn cyfrannu at ddiwylliant llawr gwlad. 

Drwy gydweithio â thafarndai cymunedol Menter y Plu, Llanystumdwy; Tafarn y Vale of Aeron, Dyffryn Aeron; Tafarn Ty’n Llan, Llandwrog; Tafarn Sinc, Rosebush a’r Fic Llithfaen, sydd yn gonglfeini ar gyfer eu cymunedau, bydd y prosiect yn ceisio datblygu cynulleidfaoedd, cyfranogwyr ac artistiaid cymunedol newydd. 

Wrth edrych ymlaen at y prosiect, meddai Iwan, “Dwi wedi cwrdd â rhai o’r bobol sydd ynghlwm â'r tafarndai yn barod ac yn edrych ymlaen yn arw i weithio gyda nhw. Mae’n bwysig iawn i fi gymryd arweinyddiaeth wrthyn nhw, gan mai nhw sy’n adnabod eu cymunedau orau. Os oes gyda chi ddiddordeb mewn perfformio unrhyw fath o gomedi neu ysgrifennu sgetsh, peidiwch ag oedi mewn cysylltu gyda ni.” 

Dywedodd Alun Prytherch o Dafarn Ty’n Llan, “Roedd hi'n wych i weld Iwan yn nhafarn Ty'n Llan yn ddiweddar. 'Da ni'n edrych ymlaen at weithio efo fo i greu nosweithiau llawn hwyl a chwerthin - a chael llond tafarn o bobl yn mwynhau”. 

Ychwanegodd Tegid Jones o Fenter y Plu, “Roedd hi'n braf cael gwahodd Iwan i sioe gomedi gan Gwmni Tebot oedd ymlaen yn y Plu yn ddiweddar - cyfle da i ddod i nabod ein gilydd a thrafod y prosiect. Rydym yn edrych ymlaen at gydweithio gydag Iwan a'r criw ar y prosiect, a gobeithio medrwn ni berswadio'r bobol leol i gymryd y cyfle i ddangos eu doniau digri." 

Mae Canolfan S4C Yr Egin, ynghyd â’r holl bartneriaid, yn hapus dros ben â phenodiad Iwan John Williams, ac yn edrych ymlaen at weld y prosiect yn datblygu dros y misoedd nesaf. Ariannir y prosiect yma gan Gyngor Celfyddydau Cymru o gronfa Cysylltu a Ffynnu. 


Gwybodaeth Bellach:  
 
Catrin Reynolds Chapple, Swyddog Cyfathrebu a Chynnwys Digidol 
catrin@yregin.cymru  
07805 301 948 

Tanysgrifiwch i'n Cylchlythyr

Cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyrau i dderbyn y newyddion a'r wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau sydd ar ddod. 

Rydych chi wedi tanysgrifio yn llwyddiannus!