LLOGI

        LLEOLIAD

Ysgafnhewch y baich o drefnu eich digwyddiad trwy ei gynnal yma gyda ni yn Yr Egin. Mae gennym y lle delfrydol, ar gyrion tref Caerfyrddin, i gynnal pob math o ddigwyddiadau, o gyfarfod neu seminar, i ddangosiad ffilm, cynhadledd, ffilmio fideo, diwrnod hyfforddiant neu barti preifat.

Mae’r cyfleusterau’n rhagorol a’r awyrgylch yn fywiog. Rydym yn darparu gwasanaeth unigol i ddiwallu eich anghenion, gan sicrhau bod y cyfan yn rhedeg yn esmwyth ac yn ddidrafferth.

Bydd technegwyr proffesiynol wrth law i gynnig cefnogaeth a chymorth yn ôl yr angen.

Gan fod gennym WiFi rhad ac am ddim, cyfleusterau cwbl hygyrch a digon o leoedd parcio, dyma’r lle perffaith i gynnal eich digwyddiad!

Ar gael ...

Bwyd a diod blasus gan gaffi Y Gegin

Cyswllt WiFi cyflym ymhob cornel o’r adeilad

Mynediad cynnar o 8yb o ddydd Llun i ddydd Gwener (gydag opsiwn i agor yn gynt saith niwrnod yr wythnos)

Lleoliad penigamp – gwyrddni trawiadol y caeau o amgylch, maes parcio cyfleus ar gyfer ceir neu lorïau, a champws y Brifysgol a thref Caerfyrddin gerllaw.

Adeilad clyd a chynnes – mae’r ffenestri anferth yn golygu bod yna ddigon o olau dydd naturiol, ac, er gwaethaf y tywydd, mae bob amser yn glyd y tu mewn.

Modd i drefnu cyfarfod bach neu gynhadledd fawr – beth bynnag y mae arnoch ei angen.

Pecyn

darlledu

digidol

Rydym yn cynnig pecynnau darlledu i fusnesau sydd am sicrhau profiad proffesiynol ac esmwyth i’w cynulleidfaoedd; yn cynnwys cyfleusterau ffrydio byw dros y we, a chyfleusterau recordio ar gyfer darllediadau ar y teledu neu waith archif.

Os ydych yn ystyried cynhadledd aml-gyfrwng, sesiwn gyda phanel, cyfarfod neu weithdy lle mae angen dod â phobl ynghyd o sawl man gwahanol, yna gallwn eich cynorthwyo i greu digwyddiadau hyblyg o ansawdd uchel, a hynny wyneb yn wyneb neu ar-lein.

Ar gael i’w llogi

Y Galon

Lansiad swyddogol neu gig gerddorol? Dyma’r lle i chi! 

Mae’r Galon yn ofod hyblyg lle gellir cynnal gweithdai, dosbarthiadau meistr, arddangosfeydd neu berfformiadau – a hynny oll yng nghalon y ganolfan.

 Er mwyn cynnig hyblygrwydd, nid oes gan yr ardal hon lwyfan parhaol. Mae yna sgrin sy’n eich galluogi i roi cyflwyniadau gweledol, a gellir ei defnyddio naill ai’n rhan o’r digwyddiad neu’n gefndir gweledol. 

 Gellir cynnal digwyddiadau annibynnol yma neu ddefnyddio’r gofod yn estyniad i’r hyn sy’n digwydd yn Y Stiwdio Fach.

  • Hyd at 150 o bobl
  • Sgrin fawr

Y Stiwdio Fach

Mae’r Stiwdio Fach yn focs du sy’n cynnwys system sain a chlywedol o ansawdd uchel. Mae hefyd yn cynnwys seddi cyfforddus symudol ar gyfer 120 o bobl, sydd ar gael i’w defnyddio yn ôl yr angen.

Gellir cynnal y canlynol yma:

  • darllediadau byw
  • theatr draddodiadol
  • cynadleddau
  • sinema
  • sgyrsiau
  • gigs
  • gweithdai

Niferoedd: 

  • Rhesi o seddi cyfforddus ar ogwydd ar gyfer 120 o bobl
  • Hyd at 80 o bobl o gwmpas byrddau
  • Hyd at 30 o bobl ar ffurf ystafell fwrdd

Ystafelloedd cyfarfod

Yn berffaith ar gyfer cyfarfod tîm neu i gwrdd â chleientiaid. 

Dwy ystafell braf, un â ffenestr yn wynebu am allan a’r llall yn wynebu am i mewn. 

Gall yr ystafelloedd eistedd hyd at wyth unigolyn, ac maent yn cynnwys – 

  • sgrin fawr gyda chysylltiad HDMI

  • WiFi

  • Pris: yn cychwyn o £20 yr awr, gyda rhagor o opsiynau ar gael i’w hychwanegu, gan gynnwys bwyd a diod

Cyfleusterau ôl-gynhyrchu

Mewn cornel gyfforddus o’r ganolfan greadigol, mae yna gyfleusterau llun a sain sy’n cynnwys yr holl offer a fersiynau diweddaraf, fel y gwelir isod.

Mae ein staff cyfeillgar, sy’n gweithio ochr yn ochr â Gorilla TV (cwmni cyfleusterau ôl-gynhyrchu mwyaf Cymru), yn barod i’ch cynorthwyo i sicrhau mai eich prosiect diweddaraf yw’r un gorau eto.

All of the suites are:

  • llogi offer yn unig neu logi offer ynghyd â pheiriannydd profiadol.
  • cyfleuster rhwydweithio trwy NDI a Dante at ddefnydd byw

Cysylltwch â ni tech@yregin.cymru i gael rhagor o wybodaeth ac i drafod archebion.

Stiwdio Lleisio

Stiwdio Lleisio Manylder Uwch gyda chaban trosleisio â gosodiad sain amgylchynol 5.1. Gellir ei defnyddio ar gyfer gosod traciau, cymysgu, trosleisio ac ADR. Caiff ei phweru gan Mac Pro a’i rheoli gan y Doc Pro Tools ac Avid S3.

Sgrin Werdd

Mae stiwdio’r sgrin werdd wedi bod o ddefnydd mawr i nifer o gleientiaid yn ystod cyfnod COVID. Gellir ei llogi ynghyd â chymorth technegol yn ôl y galw.

Ystafell Olygu

Gweithle Avid 4k, sy’n addas ar gyfer Golygu Ar-lein ac All-lein ac ar gyfer Graddio Lliw. Mae’r cyfleusterau yn cynnwys cyfres Adobe lawn, ac mae’r system yn cynnwys Davinci Resolve. Davinci Resolve.

Oriel Tricaster TC1/Avid 2

Mae yna Oriel Tricaster TC1 ar gyfer gwaith byw, sy’n gallu ffrydio deunydd amlgamera i amrywiaeth o lwyfannau ar y we. Wedi’u cysylltu â’r TC1 mae yna bedwar camera Panasonic PTZ 4K, ynghyd â system intercom ar gyfer cyfarwyddwyr a gweithredwyr camerâu, ac ati.

Cadwch eich lle

Cysylltwch â ni ...

Cysylltwch â ni os hoffech archebu un o'n cyfleusterau!

Edrychwn ymlaen at glywed gennych!

Ffoniwch: (+44) 1267 611 600

Tanysgrifiwch i'n Cylchlythyr

Cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyrau i dderbyn y newyddion a'r wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau sydd ar ddod. 

Rydych chi wedi tanysgrifio yn llwyddiannus!